Y Wladfa - Patagonia

Teithiau Andes Celtig Travel

Cwm Hyfryd

Mae Cwm Hyfryd yn nodweddiadol o dirweddau Patagonia, gyda chefndir o fynyddoedd glas â chopaon llawn eira, gwastadeddau eang o gnydau, fflora cynhenid, ac awel gyson ddeheuol. Mae'r dyffryn yn hardd yn ystod yr haf, ond hefyd yn y tymhorau eraill. Yn yr hydref mae’r llethrau mynyddig yn llawn o liwiau anhygoel, yn yr un modd yn ystod y gwanwyn tra yn llawn o flodau gwyllt. Yn y gaeaf, bydd haenau o eira yn caniatáu sgïo a chwaraeon gaeafol eraill.
 
Rhai o'r teithiau yng Nghwm Hyfryd sy’n cael eu cynnwys yn ein teithlenni yw parc cenedlaethol Los Alerces, gwarchodfa natur Nant y Fall, tren bach La Trochita (Old Patagonian Express), melin Nant Fach, amgueddfa Ysgol 18 Pentre Sydyn a hefyd Esquel a Trevelin.

 

Copyright/Hawlfraint © 2007–2017, Andes Celtig.

Top